Ymwadiad Gwefan
Mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Darperir yr wybodaeth gan Energy & Utility Skills ac er ein bod yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn ddiweddar ac yn gywir, nid ydym yn gwneud unrhyw gynrychioliadau neu warantau o unrhyw fath, yn amlwg neu drwy awgrym, ynghylch cyfanrwydd, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd neu argaeledd mewn perthynas â'r wefan neu'r wybodaeth, y cynnyrch, y gwasanaethau neu'r graffeg gysylltiedig sydd wedi'u cynnwys ar y wefan at unrhyw ddiben. Mae unrhyw ddibyniaeth gennych felly ar wybodaeth o'r fath ar eich risg eich hun.
Ni fyddwn mewn unrhyw achos yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod yn cynnwys yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n codi o golli data neu elw yn codi o, neu mewn cysylltiad â defnyddio'r wefan hon.
Drwy'r wefan hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth Energy & Utility Skills. Nid oes gennym reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad neu'n cymeradwyo'r farn a fynegir oddi mewn iddynt.
Gwneir pob ymdrech i gadw'r wefan i redeg yn effeithiol. Fodd bynnag, nid yw Energy & Utility Skills yn derbyn cyfrifoldeb dros, ac ni fydd yn gyfrifol os na fydd y wefan ar gael dros dro o ganlyniad i faterion technegol y tu hwnt i'n rheolaeth.





