Stakeholders in the Welsh energy and utilities sector are invited by Energy & Utility Skills to contribute to a review of Welsh Apprenticeships Frameworks.
A cross-industry steering group is being established, which will be involved in key decisions throughout the project before its final submission for approval to the Welsh government.
This process is slated for completion by March 2022.
The first stage will involve reviewing the existing frameworks to see which are fit for purpose and which will need to be updated to fit current and future requirements in the sector. They will then be collated into one document, reflecting the roles and career pathways they will support.
Following this will be the development of a new Apprenticeship Framework for Energy Management. Currently, this seems to have clear parallels with an existing English Apprenticeship Standard for Junior Energy Management, which has been running in England since 2016.
Throughout the project we will also be holding technical Working Group meetings to review the content of the Apprenticeship Frameworks. Opportunities to join these groups will be communicated nearer the time, and we welcome your support in identifying attendees for these meetings.
The frameworks under review are as follows:
- Sustainable Resource Management Levels 2,3,4
- Smart Meter Installations (Dual Fuel) Level 3
- The Gas Industry Levels 2 & 3
- Power Sector Levels 2 & 3
- Water Industry Levels 2,3,4
Interested in joining the steering group? The first online steering group meeting will be taking place on 01 October 2021. Register here to attend.
Want to get involved, or have any questions? Contact standardsreview@euskills.co.uk for more information.
Ymunwch yn adolygiad Fframweithiau Prentisiaethau Cymru
Contractwyd Energy & Utility Skills gan Lywodraeth Cymru i adolygu Fframweithiau Prentisiaethau Cymru yn y sector ynni a chyfleustodau.
Gwahoddir rhanddeiliaid yn y sector ynni a chyfleustodau yng Nghymru gan Energy & Utility Skills i gyfrannu i ddatblygiad Fframweithiau Prentisiaethau newydd ar gyfer Cymru.
Mae grŵp llywio traws ddiwydiant yn cael ei sefydlu, a fydd yn rhan mewn gwneud penderfyniadau allweddol drwy gydol y prosiect cyn y bydd yn cael ei gyflwyno’n derfynol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Disgwylir y bydd y broses hon wedi’i chwblhau erbyn mis Mawrth 2022.
Y cam cyntaf fydd adolygu’r fframweithiau presennol er mwyn gweld pa rai sy’n addas at y diben a pha rai fydd angen eu diweddaru fel eu bod yn addas ar gyfer y gofynion presennol a gofynion y dyfodol yn y sector. Yna byddant yn cael eu casglu ynghyd mewn un ddogfen, gan adlewyrchu’r rolau a’r llwybrau gyrfa y byddant yn eu cefnogi.
Wedi hyn datblygir Fframwaith Prentisiaeth newydd ar gyfer Rheoli Ynni. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod gan hon nodweddion tebyg i Safon Prentisiaethau Lloegr ar gyfer Rheolaeth Ynni Iau, sydd wedi bod yn weithredol yn Lloegr ers 2016.
Trwy gydol y prosiect byddwn yn cynnal cyfarfodydd Gweithgor technegol i adolygu cynnwys y Fframweithiau Prentisiaeth. Cyfathrebir cyfleoedd i ymuno â’r grwpiau hyn yn nes at yr amser, ac rydym yn croesawu eich cymorth i nodi mynychwyr ar gyfer y cyfarfodydd hyn.
Mae’r fframweithiau sy’n cael eu hadolygu fel a ganlyn:
- Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Lefelau 2,3,4
- Gosod Mesuryddion Deallus (Tanwydd Dwbl) Lefel 3
- Y Diwydiant Nwy Lefelau 2 a 3
- Y Sector Pŵer Lefelau 2 a 3
- Y Diwydiant Dŵr Lefelau 2,3,4
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp llywio? Cynhelir y cyfarfod grŵp llywio ar-lein cyntaf ar 01 Hydref 2021. Cofrestrwch yma i fynychu.
Hoffech chi gymryd rhan, neu a oes gennych unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â standardsreview@euskills.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.