Energy & Utility Skills has secured funding from Welsh Government to develop a new Welsh Apprenticeship Framework Pathway in Energy Management. The aim of this Apprenticeship is to support the development of in-house energy management skills, helping organisations meet sustainability commitments by reducing energy consumption and reducing costs.
It is anticipated that the new Apprenticeship Framework Pathway will align to the existing Junior Energy Management English Apprenticeship Standard, which has been in place since 2016.
It is vital we secure the views of interested parties and industry experts to ensure the new Apprenticeship meets the needs of employers and those working in the industry. We are inviting employers to contribute to these exciting developments by joining our working group on Thursday 25 November 1-3pm
The working group will:
- Identify the content of the Apprenticeship, ensuring it meets the needs of employers and is written to a standard format that can easily be understood.
- Confirm the Apprenticeship aligns with any Welsh specific legislative and language requirements.
- Confirm that any included qualifications are appropriate and add value to the quality of the pathway.
Click here to book your place on the working group, or contact us to confirm your interest.
Our Standards and Qualification Review Privacy Notice sets out how Energy & Utility Skills uses and protects any information you give us as part of the Framework development process.
Want to get involved, or have any questions? – Contact Standards Review for more information.
Beth sydd ei angen arnoch gan Lwybr Fframwaith mewn Rheoli Ynni newydd i Gymru?
Gwahoddir rhanddeiliaid yn y sector ynni a chyfleustodau yng Nghymru gan Energy & Utility Skills i gyfrannu i ddatblygiad Llwybr Fframwaith Rheoli Ynni newydd sbon.
Mae Energy & Utility Skills wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Llwybr Fframwaith Prentisiaethau mewn Rheoli Ynni i Gymru. Nod y Brentisiaeth hon yw cefnogi datblygiad sgiliau rheoli ynni yn fewnol, gan gynorthwyo sefydliadau i gyflawni ymrwymiadau cynaliadwyedd drwy leihau defnydd ynni a lleihau costau.
Rhagwelir y bydd y Llwybr Fframwaith Prentisiaethau newydd yn cyd-fynd â’r Safon Prentisiaethau Rheoli Ynni Iau sy’n bodoli eisoes yn Lloegr ac wedi bod ar waith ers 2016.
Mae’n hollbwysig ein bod yn cael barn y rheini sydd â diddordeb ac arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn sicrhau bod y Brentisiaeth newydd yn diwallu anghenion cyflogwyr a’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant. Rydym yn gwahodd cyflogwyr i gyfrannu at y datblygiadau cyffrous hyn drwy ymuno â’n gweithgor ar ddydd Iau 25 Tachwedd 1-3pm
Bydd y gweithgor yn gwneud y canlynol:
- Nodi cynnwys y Brentisiaeth, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion cyflogwyr ac wedi’i hysgrifennu mewn fformat safonol sy’n hawdd ei deall.
- Cadarnhau bod y Brentisiaeth yn cyd-fynd ag unrhyw ddeddfwriaeth benodol i Gymru a gofynion o ran y Gymraeg.
- Cadarnhau bod unrhyw gymwysterau a gynhwysir yn briodol ac yn ychwanegu gwerth i ansawdd y llwybr.
Cliciwch yma i archebu eich lle ar y gweithgor, neu cysylltwch â ni i gadarnhau eich diddordeb.
Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Adolygu Safonau a Chymhwyster yn nodi sut y mae Energy & Utility Skills yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei roi i ni fel rhan o’r broses datblygu Fframwaith.
Hoffech chi gymryd rhan, neu a oes gennych unrhyw gwestiynau? – Cysylltwch ag Adolygu Safonau i gael rhagor o wybodaeth.