Consultation launched on Welsh Framework Apprenticeship Pathways for energy and utilities sector - EU Skills

Consultation launched on Welsh Framework Apprenticeship Pathways for energy and utilities sector

Energy & Utility Skills invites stakeholders to shape the new and revised pathways by completing a short survey 

Group of apprentices

We are helping to shape several new Welsh Apprenticeship Framework pathways.

A number of industry specialist working groups have participated in the development of these draft frameworks, which we are now opening to consultation.

An apprenticeship is an opportunity for individuals to learn on and off the job while in employment to gain the knowledge and skills needed to be competent in their occupation.

All framework pathways include a Competence, Knowledge, or Combined occupational qualification, along with the relevant Essential Skills Wales qualifications.  

The new Energy and Utilities Framework contains the following occupational pathways:

  • Energy Management (Level 3)
  • Gas Operations (Levels 2 and 3)
  • Water Industry Operations (Levels 2 and 3)
  • Smart Metering (Dual Fuel) (Level 2)

Get involved

We are keen to hear from as many key stakeholders as possible to ensure that these apprenticeships are relevant, high-quality, and fit for purpose.

To gather your feedback to the consultation, Energy & Utility Skills has developed a short online survey which should take 15-20 minutes to complete.

The information you provide will be used to inform the final version of the Welsh Framework Apprenticeship Pathways.

The surveys are open until 17:00 on 18 February 2022, and can be accessed below:

We would be grateful if you could also forward this email to any of your colleagues or contacts who you think may be interested in contributing.

If you experience any difficulty in accessing the survey or any of the attached links, or would prefer a one-to-one discussion in order to feedback your comments on the changes, please get in touch with the Standards Review team.

Our Standards and Qualification Review Privacy Notice sets out how Energy & Utility Skills uses and protects any information you give us as part of the Framework development process.

We greatly appreciate you taking the time to participate and have your say.


Lansio ymgynghoriad ar Lwybrau Prentisiaethau Fframwaith Cymru ar gyfer y sector ynni a chyfleustodau

Mae Energy & Utility Skills yn gwahodd rhanddeiliaid i lunio’r llwybrau newydd a diwygiedig trwy gwblhau arolwg byr

Rydym yn helpu i lunio’r llwybrau newydd ar gyfer nifer o fframweithiau Cymru ar gyfer prentisiaethau.

Mae nifer o weithgorau sy’n arbenigo yn y diwydiant wedi cymryd rhan yn natblygiad y fframweithiau drafft hyn ac rydym nawr yn eu hagor ar gyfer ymgynghoriad.

Mae prentisiaeth yn gyfle i unigolion ddysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith tra’u bod mewn cyflogaeth er mwyn meithrin y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn gymwys yn eu galwedigaeth.

Mae pob llwybr fframwaith yn cynnwys cymhwyster galwedigaethol Cymhwysedd, Gwybodaeth neu Gyfunol, ynghyd â’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru perthnasol. 

Mae’r Fframwaith Ynni a Chyfleustodau newydd yn cynnwys y llwybrau galwedigaethol canlynol:

  • Rheoli Ynni (Lefel 3)
  • Gweithrediadau Nwy  (Lefelau 2 a 3)
  • Gweithrediadau’r Diwydiant Dŵr  (Lefelau 2 a 3)
  • Mesuryddion Clyfar (Tanwydd Deuol) (Lefel 2)

Cymerwch ran

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o randdeiliaid allweddol â phosibl i sicrhau bod y prentisiaethau hyn yn berthnasol, yn rhai o ansawdd uchel, ac yn addas i’r diben.

I gasglu eich adborth i’r ymgynghoriad, mae Energy & Utility Skills wedi datblygu arolwg ar-lein byr a ddylai gymryd 15-20 munud i’w gwblhau.

Defnyddir y wybodaeth a roddir gennych i lywio fersiwn derfynol Llwybrau Prentisiaethau Fframwaith Cymru.

Mae’r arolygon ar agor tan 17:00 ar 18 Chwefror 2022, a gellir eu cyrchu isod:

Byddem yn ddiolchgar pe gallech hefyd anfon yr e-bost hwn ymlaen at unrhyw rai o’ch cydweithwyr neu gysylltiadau y credwch y gallai fod ganddynt ddiddordeb mewn cyfrannu.

Os cewch unrhyw anhawster i gael mynediad at yr arolwg neu unrhyw un o’r dolenni atodedig, neu os byddai’n well gennych gael trafodaeth un i un er mwyn rhoi adborth am y newidiadau, cysylltwch â’r tîm Adolygu Safonau.

Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Adolygu Safonau a Chymhwyster yn nodi sut y mae Energy & Utility Skills yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei roi i ni fel rhan o’r broses datblygu Fframwaith.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi rhoi o’ch amser i gyfranogi a rhoi eich barn.