Help shape National Occupational Standards for gas and water network construction - EU Skills

Help shape National Occupational Standards for gas and water network construction

Energy & Utility Skills is looking for industry representatives to help us review these standards

Have your say on National Occupation Standards for GAS AND WATER

Energy & Utility Skills has recently been appointed by Skills Development Scotland (SDS) to review the Gas Network Construction (GNC) National Occupational Standards (NOS), and is inviting employers, training providers and professional bodies to get involved.

Alongside the Gas Network Construction NOS review, Energy & Utility Skills is also preparing to review the Water Network Construction (WNC) NOS.

National Occupational Standards simply describe what an employee needs to do and needs to know to perform a work activity. They are subject to formal consultation and approval processes and are approved by UK government regulators.

The Gas Network Construction and Water Network Construction NOS were last revised in 2018 and 2019 respectively, and are being reviewed to ensure they reflect current working practice and technological changes.

Get Involved

We are keen to hear about the latest innovations and working practices in the gas and water industries to ensure the revised NOS continue to reflect industry best practice.

As such, we are asking industry representatives to register their interest in either sharing sector-specific technical expertise on a one-to-one basis, or to be involved in workshops in early September to review the current NOS.

To register your interest, please email standardsreview@euskills.co.uk with your contact details and confirmation of which NOS review you would like to be involved in. A member of the team will be in touch.

For further information about how we will use and protect any information you provide for us as a part of the framework development process, please read our Standards and Qualification Review Privacy Notice.


Helpwch i lunio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer adeiladu rhwydwaith nwy a dŵr

Mae Energy & Utility Skills yn chwilio am gynrychiolwyr o’r diwydiant i’n helpu i adolygu’r safonau hyn

Mae Energy & Utility Skills wedi’i benodi’n ddiweddar gan Skills Development Scotland (SDS) i adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Adeiladu Rhwydwaith Nwy (GNC), ac mae’n gwahodd cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff proffesiynol i gymryd rhan.

Ar y cyd â’r adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Adeiladu Rhwydwaith Nwy, mae Energy & Utility Skills hefyd yn paratoi i adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Adeiladu Rhwydwaith Dŵr (WNC).

Yn syml, mae Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn disgrifio’r hyn y mae angen i gyflogai ei wneud a’r hyn y mae angen iddo ei wybod i gyflawni gweithgaredd gwaith. Maent yn destun ymgynghoriad ffurfiol a phrosesau cymeradwyo ac yn cael eu cymeradwyo gan reoleiddwyr llywodraeth y DU.

Adolygwyd Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) Adeiladu Rhwydwaith Nwy ac Adeiladu Rhwydwaith Dŵr ddiwethaf yn 2018 a 2019 yn y drefn honno, ac maent yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu arferion gwaith a newidiadau technolegol cyfredol.

Cymerwch ran

Rydym yn awyddus i glywed am y datblygiadau arloesol a’r arferion gwaith diweddaraf yn y diwydiannau nwy a dŵr i sicrhau bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) diwygiedig yn parhau i adlewyrchu arferion gorau’r diwydiant.

O’r herwydd, rydym yn gofyn i gynrychiolwyr y diwydiant gofrestru eu diddordeb mewn naill ai rhannu arbenigedd technegol sy’n benodol i’r sector ar sail un-i-un, neu gymryd rhan mewn gweithdai ddechrau mis Medi i adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) presennol.

I gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch standardsreview@euskills.co.uk gyda’ch manylion cyswllt a chadarnhad o ba adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yr hoffech fod yn rhan ohono. Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.

I gael gwybodaeth bellach ynghylch sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu ar ein cyfer fel rhan o’r broses o ddatblygu’r fframwaith, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Adolygu Safonau a Chymwysterau.