Help shape the national standards for the energy and utilities sector - EU Skills

Help shape the national standards for the energy and utilities sector

National Occupational Standards (NOS) review

Help shape the national standards for the energy and utilities sector

Energy & Utility Skills invites employers, training providers and professional bodies to review the revised Utility Network Design National Occupational Standards (NOS). The suite covers the design of utility networks to meet client and regulatory requirements.

NOS describe what an individual needs to do and needs to know to perform a work activity, including the skills, knowledge and understanding required. They can be applied across the UK and are used in the development of in-house training programmes, plus they are a key component for qualifications and apprenticeship frameworks.

With support and input from industry stakeholders, the Utility Network Design NOS suite has been updated to ensure they reflect current working practices within the industry.

Get Involved

Following a series of industry workshops and drafting of the revised suite, we’re asking industry stakeholders from across the UK to review and comment on the NOS to ensure they reflect industry best practice. To access the online consultation and provide your feedback, please click on the below link:

If you have any questions or would like more information about our programme of NOS, Qualification and Apprenticeship Framework review, please contact us at standardsreview@euskills.co.uk .


Helpwch i lunio’r safonau cenedlaethol ar gyfer y sector ynni a chyfleustodau

Adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)

Mae Energy & Utility Skills yn gwahodd cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff proffesiynol i adolygu’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) diwygiedig ar gyfer Dylunio Rhwydwaith Cyfleustodau. Mae’r gyfres yn ymdrin â dylunio rhwydweithiau cyfleustodau i fodloni gofynion cleientiaid a rheoleiddiol.

Mae NOS yn disgrifio’r hyn y mae angen i unigolyn ei wneud a’r hyn y mae angen iddo ei wybod i gyflawni gweithgaredd yn y gwaith, gan gynnwys y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen. Gellir eu cymhwyso ledled y DU ac fe’u defnyddir i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant mewnol, ac maent hefyd yn gydran allweddol ar gyfer fframweithiau cymwysterau a phrentisiaeth.

Gyda chymorth a mewnbwn gan randdeiliaid y diwydiant, mae cyfres NOS Dylunio Rhwydwaith Cyfleustodau wedi’i diweddaru i sicrhau ei bod yn adlewyrchu arferion gwaith cyfredol o fewn y diwydiant.

Cymerwch ran

Yn dilyn cyfres o weithdai diwydiant a drafftio’r gyfres ddiwygiedig, rydym yn gofyn i randdeiliaid o’r diwydiant o bob rhan o’r DU adolygu a rhoi sylwadau ar yr NOS i sicrhau eu bod yn adlewyrchu arfer gorau’r diwydiant. I gael mynediad at yr ymgynghoriad ar-lein a rhoi eich adborth, cliciwch ar y ddolen isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am ein rhaglen o NOS neu adolygiad y Fframwaith Cymwysterau a Phrentisiaethau, cysylltwch â ni yn standardsreview@euskills.co.uk.